top of page

Dirprwy Arweinydd / Ymarferydd Gofal Plant

Mae Traed Bêch Twymyn yn Gylch Meithrin bychan a chartrefol yn cynnig gofal drwy’r dydd i blant ieuengaf ardal Glantwymyn. Rydym yn chwilio am unigolion egniol a dibynadwy i ffurfio tîm llwyddiannus, profiadol a brwdfrydig fydd yn creu profiadau gwerthfawr i blant o 18 mis i 4 mlwydd oed.

Manylion y Swydd

Lleoliad

Oriau Gwaith

Traed Bêch Twymyn, Cemaes, Machynlleth, SY20 9PR

Hyd at 38 awr yr wythnos (gweithio 4 diwrnod yr wythnos)

Cyflog

Gwyliau

£24,700 - £26,676 y flwyddyn

23 diwrnod, gyda thâl + Gwyliau Banc (pro-rata)

Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio rhan amser, rhannu swydd neu oriau hyblyg.

Cymwysterau

Dylai bod gan Dirprwy Arweinydd Traed Bech Twymyn gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o Gylch er enghraifft

neu, gallai deilydd y swydd fod yn hyfforddi tuag at ennill cymhwyster ac mae cefnogaeth ariannol ar gael tuag at hyn.

Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am restr o’r cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru. https://socialcare.wales

Iaith

Dylech fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn Siaradwr Newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Dyletswyddau

Bydd y Dirprwy Arweinydd, trwy’r Arweinydd, yn atebol i Bwyllgor Rheoli Traed Bech Twymyn am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

• arolygu, monitro a gwerthuso gwaith pob aelod o staff yn achlysurol h.y. yn absenoldeb yr Arweinydd
• cynorthwyo gyda sicrhau y gweithredir canllawiau a pholisïau’r Cylch Meithrin ym mhob gweithgaredd gan bob aelod o staff
• cynorthwyo gyda sicrhau bod y Cylch yn gweithredu egwyddorion a nodau'r Cyfnod Sylfaen yn ei holl weithgareddau*
• cynorthwyo gyda’r gwaith o gydymffurfio â holl reoliadau cofrestru'r Arolygiaeth Gofal Cymru
• sicrhau bod ystafelloedd a’r cyfleusterau (gan gynnwys y tu allan) yn ddeniadol ac yn groesawgar, ac yn cydymffurfio â holl ofynion iechyd a diogelwch
• sicrhau fod adnoddau yn hygyrch ac yn cael eu defnyddio tu mewn a thu allan er mwyn hybu sgiliau ieithyddol, corfforol, mathemategol, creadigol, cymdeithasol, a.y.y.b.
• cyfrannu i weithgareddau chwarae awyr agored y plant
• sicrhau y defnyddir y Gymraeg yn llawn ym mhob gweithgaredd a chefnogi’r Arweinydd i sicrhau bod pob aelod o staff yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar bob adeg
• cynorthwyo i sicrhau bod ardaloedd dysgu sy’n adlewyrchu’r Cyfnod Sylfaen yn cael eu darparu i’r plant er mwyn hyrwyddo eu datblygiad a’u dysgu*
• gweithio fel tîm a chyfrannu i’r broses o gynllunio gwaith a gweithgaredd yn y tymor byr ac yn y tymor hir
• cynorthwyo gyda sicrhau bod trefniadau penodol i blant elwa o chwarae tu allan
• sicrhau bod plant ag anghenion ychwanegol yn cael cyfle cyfartal llawn
• cadw cofnod o ddatblygiad y plant gan gynnwys esiamplau o’u gwaith
• cyfrannu i’r broses o arsylwi ar blant a chofnodi eu cynnydd
• sicrhau bod yr offer yn cael ei gadw’n daclus ar ôl pob sesiwn, a bod yr ystafell yn lân ac yn ddiogel
• sicrhau cyfle i rieni drafod datblygiad eu plant yn achlysurol
• mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol i’r swydd
• Cefnogi swyddogion y Pwyllgor i farchnata Traed Bech Twymyn ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn ehangach i ddefnyddwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.
• ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl
cyfarwyddyd y Pwyllgor Rheoli, e.e. cyfrifoldeb am anghenion arbennig, cymorth cyntaf, a iechyd a diogelwch

*Ni fydd Traed Bech Twymyn yn cofrestru fel darparwr addysg gyda Estyn, ond bydd egwyddorion a nodau’r Cyfnod Sylfaen yn cael eu gweithredu

Manyleb Person

Am fwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Einir ar 07891353082 neu e-bostiwch cadeiryddtbt@gmail.com.

I ymgeisio, gellir lawrlwytho ffurflen gais isod. Danfonwch ffurflenni cais wedi cwblhau neu CV at cadeiryddtbt@gmail.com cyn gynted â phosib.

Neuadd Cemaes, Cemaes, Machynlleth SY20 9PR, UK

  • Instagram
  • Facebook

©2022 by Traed Bêch Twymyn. Proudly created with Wix.com

bottom of page