Traed Bêch Twymyn
Cylch Meithrin newydd sbon i'r plant ieuangaf yn ardal Glantwymyn fydd yn cynnig gofal drwy'r dydd, trwy gyfrwng y Gymraeg i blant o 18 mis i 5 mlwydd oed.

Ein Bwriad
Meithrin plant hyderus, cymdeithasol a dwyieithog mewn amgylchedd sy'n annog creadigrwydd, chwilfrydedd a dysgu drwy chwarae er mwyn datblygu arferion da a sefydlogrwydd sy'n paratoi plant bach at gychwyn eu haddysg.
Datblygwyd Traed Bêch Twymyn mewn ymateb i brinder gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg i'r plant ieuengaf yn ardal Glantwymyn.
Yn ystod 2022, bu'r pwyllgor gwirfoddol yn cydweithio gyda Mudiad Meithrin i greu swyddi, recriwtio tîm profiadol a chofrestru ein safle gyda Arolygaeth Gofal Cymru.
Agorwyd drysau Traed Bech Twymyn ar y 4ydd o Ionawr 2023.

Nod ac Amcanion
Cynnig gofal drwy’r dydd trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn magu plant hyderus, cymdeithasol a dwyieithog
Creu amgylchedd sy’n annog creadigrwydd, chwilfrydedd a dysgu trwy chwarae
Meithrin arferion da a darparu sefydlogrwydd sy’n paratoi plant at gychwyn yn yr ysgol
Gwerthoedd Craidd
-
Ateb y galw brys am ddarpariaeth gofal plant drwy’r dydd, cyfrwng Cymraeg i blant ieuengaf yr ardal
-
Cefnogi a bwydo Cylch Meithrin Glantwymyn
-
Bod yn gwmni nid am elw a sicrhau fod arian yn aros yn ein cymuned leol

Ein Gwasanaeth
Rydym yn cynnig gofal drwy'r dydd i blant o 18 mis oed hyd at 4 mlwydd oed.
Natur hamddenol gan ddilyn dulliau montessori a'r curiosity approach.
Bwyd i gyd wedi ei gynnwys yn y pris.
Gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mawrth - Gwener: 7:45yb - 5:30yh
Gwyliau Banc: Ar Gau
Byddwn hefyd yn cau dros wythnos y Nadolig.
Lleoliad
Neuadd Cemaes, Cemaes, Machynlleth, SY20 9PR
Neuadd bentref wedi ei addasu yn bwrpasol ar gyfer gofal plant
Tegannau ac adnoddau naturiol
Awyrgylch wedi ei ddylunio ar gyfer dysgu drwy chwarae ac ennyn chwilfrydedd
Ardal chwarae tu allan
Cornel dawel ar gyfer gorffwys a chysgu a bydd amser dynodedig yn ystod y diwrnod i bob plentyn ymlacio
Cegin bwrpasol ar gyfer paratoi prydau bwyd
![]() | ![]() | ![]() |
---|---|---|
![]() | ![]() | ![]() |
![]() | ![]() | ![]() |
![]() | ![]() | ![]() |
![]() | ![]() | ![]() |
![]() | ![]() | ![]() |

Ffîoedd
Mae'r ffîoedd yn cynnwys brecwast, cinio a byrbrydau. Cofiwch fod y Cynllun Gofal Plant Di-dreth yn rhoi gostyngiad o 20% ar y prisiau isod - mae'n werth ei ddefnyddio os ydych yn gymwys!