top of page

Cymhorthydd Cinio

Mae Traed Bêch Twymyn yn Gylch Meithrin newydd sbon syddyn cynnig gofal drwy’r dydd i blant ieuengaf ardal Glantwymyn. Rydym yn chwilio am unigolion egniol a dibynadwy i ffurfio tîm llwyddiannus, profiadol a brwdfrydig fydd yn creu profiadau gwerthfawr i blant o 6=18 mis i 4 mlwydd oed.

Manylion y Swydd

Lleoliad

Oriau Gwaith

Traed Bêch Twymyn, Cemaes, Machynlleth, SY20 9PR

1 - 2 awr y dydd, dros ginio (gweithio 4 diwrnod yr wythnos)

Cyflog

Gwyliau

£12.50 / awr

23 diwrnod, gyda thâl + Gwyliau Banc (pro-rata)

Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio rhan amser, rhannu swydd neu oriau hyblyg. Cysylltwch a ni drafod eich patrwm gweithio.

Cymwysterau

Yn ddibynnol ar amgylchiadau staffio'r safle (gweler Rheoliadau AGC), dylai Cynorthwyydd Traed Bech Twymyn fod â phrofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant er enghraifft:
• Tystysgrif CACHE mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng Cymraeg)
• CGC Lefel 2 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar / Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Tystysgrif Lefel 2 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Cymhwyster perthnasol arall
Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am wybodaeth o’r Cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru:
https://socialcare.wales/cms_assets/file-uploads/List-of-required-qualifications-to-work-within-early-years-and-childcare-sector-in-Wales.pdf


Iaith

Dylech fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn Siaradwr Newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Dyletswyddau

Bydd y Cynorthwyydd, trwy’r Arweinydd, yn atebol i Bwyllgor Rheoli Traed Bech Twymyn am gyflawni’r dyletswyddau canlynol, dros amser cinio h.y. pan fydd y staff craidd ar egwyl cinio -
Cydweithio gyda’r Pwyllgor Rheoli â’r Arweinydd er mwyn cynorthwyo gyda gweithredu:
• canllawiau a pholisïau’r Cylch Meithrin ym mhob gweithgaredd
• egwyddorion a nodau'r Cwricwlwm i Gymru yng ngweithgareddau’r plant*
• cynorthwyo gyda’r gwaith o gydymffurfio â holl reoliadau cofrestru'r Arolygiaeth Gofal Cymru
• sicrhau bod yr ystafelloedd a’r cyfleusterau (gan gynnwys y tu allan) yn ddeniadol ac yn groesawgar ac yn cydymffurfio â holl ofynion iechyd a diogelwch
• sicrhau bod adnoddau yn hygyrch ac yn cael eu defnyddio tu mewn a thu allan er mwyn hybu sgiliau ieithyddol, corfforol, mathemategol, creadigol, cymdeithasol.
• cyfrannu i weithgareddau chwarae awyr agored y plant
• sicrhau y defnyddir y Gymraeg yn llawn ym mhob gweithgaredd
• cynorthwyo i sicrhau bod ardaloedd dysgu sy’n adlewyrchu’r Cyfnod Sylfaen yn cael eu darparu i’r plant er mwyn hyrwyddo eu datblygiad a’u dysgu*
• cyfrannu i’r broses o gynllunio gwaith a gweithgaredd yn y tymor byr ac yn y tymor hir
• sicrhau bod plant ag anghenion ychwanegol yn cael cyfle cyfartal llawn
• cyfrannu i’r broses o arsylwi ar blant a chofnodi eu cynnydd
• sicrhau bod yr offer yn cael ei gadw’n daclus ar ôl pob sesiwn, a bod yr ystafell yn lân ac yn ddiogel
• mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol i’r swydd
• ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl
cyfarwyddyd y Pwyllgor Rheoli
*Ni fydd Traed Bech Twymyn yn cofrestru fel darparwr addysg gyda Estyn, ond bydd egwyddorion a nodau’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn cael eu dilyn

Manyleb Person

Am fwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Einir ar 07891353082 neu e-bostiwch traedbechtwymyn@gmail.com.

I ymgeisio, gellir lawrlwytho ffurflen gais isod. Danfonwch ffurflenni cais wedi cwblhau at traedbechtwymyn@gmail.com.

Neuadd Cemaes, Cemaes, Machynlleth SY20 9PR, UK

  • Instagram
  • Facebook

©2022 by Traed Bêch Twymyn. Proudly created with Wix.com

bottom of page