Ymarferydd Gofal Plant (cyfnod mamolaeth)
Mae Traed Bêch Twymyn yn Gylch Meithrin sydd yn cynnig gofal drwy’r dydd i blant ieuengaf ardal Dyffryn Dyfi. Rydym yn chwilio am unigolion egniol a dibynadwy i ychwanegu at ein tîm llwyddiannus, profiadol a brwdfrydig fydd yn creu profiadau gwerthfawr i blant o 18 mis i 4 mlwydd oed. Lleoliad bach a chartrefol yw Traed Bech Twymyn sydd â naws teuluol ac ymdeimlad o agosatrwydd. Ar gyfartaledd mae tua 7/8 o blant yn bresennol bob dydd. Cymraeg yw iaith y lleoliad.
Manylion y Swydd
Lleoliad
Oriau Gwaith
Traed Bêch Twymyn, Cemaes, Machynlleth, SY20 9PR
20 awr yr wythnos gan weithio Dydd Mawrth, Mercher, a Gwener. Rydym yn derbyn ceisiadau i weithio'n rhan amser neu oriau hyblyg.
Cyflog
Gwyliau
£12.50 / awr
23 diwrnod, gyda thâl (pro rata)
Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio rhan amser, rhannu swydd neu oriau hyblyg.
Cymwysterau
Yn ddibynnol ar amgylchiadau staffio'r safle (gweler Rheoliadau AGC), dylai Cynorthwyydd Traed Bech Twymyn fod â phrofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 3 i ofalu am blant er enghraifft:
• Tystysgrif CACHE mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng Cymraeg)
• CGC Lefel 3 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar / Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Tystysgrif Lefel 3 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
• Cymhwyster perthnasol arall
neu,
Prentisiaeth
Os yn ddi-gymhwyster, gellir gweithio tuag at gymhwyster. Mae modd hyfforddi mewn swydd ac ennill cymhwyster lefel 2/3 tra’n gweithio ac ennill cyflog. Mae nifer o gyrsiau amrywiol ac rydym yn hapus i drafod addasu oriau er mwyn caniatau i’r ymgeisydd fynychu’r sesiynau dysgu. Mae modd cwblhau cymhwyster trwy gynllun Cam wrth Gam Mudiad Meithrin, wedi ei ariannu'n llawn.
Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am wybodaeth o’r Cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru:
https://socialcare.wales/cms_assets/file-uploads/List-of-required-qualifications-to-work-within-early-years-and-childcare-sector-in-Wales.pdf
Iaith
Dylech fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn Siaradwr Newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Dyletswyddau
Bydd yr Ymarferydd, trwy’r Arweinydd, yn atebol i Bwyllgor Rheoli Traed Bech Twymyn am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cydweithio gyda’r Pwyllgor Rheoli â’r Arweinydd er mwyn cynorthwyo gyda gweithredu:
• canllawiau a pholisïau’r Cylch Meithrin ym mhob gweithgaredd
• egwyddorion a nodau'r Cwricwlwm i Gymru yng ngweithgareddau’r plant*
• cynorthwyo gyda’r gwaith o gydymffurfio â holl reoliadau cofrestru'r Arolygiaeth Gofal Cymru
• sicrhau bod yr ystafelloedd a’r cyfleusterau (gan gynnwys y tu allan) yn ddeniadol ac yn groesawgar ac yn cydymffurfio â holl ofynion iechyd a diogelwch
• sicrhau bod adnoddau yn hygyrch ac yn cael eu defnyddio tu mewn a thu allan er mwyn hybu sgiliau ieithyddol, corfforol, mathemategol, creadigol, cymdeithasol.
• cyfrannu i weithgareddau chwarae awyr agored y plant
• sicrhau y defnyddir y Gymraeg yn llawn ym mhob gweithgaredd
• cynorthwyo i sicrhau bod ardaloedd dysgu sy’n adlewyrchu’r Cyfnod Sylfaen yn cael eu darparu i’r plant er mwyn hyrwyddo eu datblygiad a’u dysgu*
• cyfrannu i’r broses o gynllunio gwaith a gweithgaredd yn y tymor byr ac yn y tymor hir
• sicrhau bod plant ag anghenion ychwanegol yn cael cyfle cyfartal llawn
• cyfrannu i’r broses o arsylwi ar blant a chofnodi eu cynnydd
• sicrhau bod yr offer yn cael ei gadw’n daclus ar ôl pob sesiwn, a bod yr ystafell yn lân ac yn ddiogel
• mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol i’r swydd
• ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl
cyfarwyddyd y Pwyllgor Rheoli
*Nid ywTraed Bech Twymyn wedi cofrestru fel darparwr addysg gyda Estyn, ond bydd egwyddorion a nodau’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn cael eu dilyn.
Manyleb Person
Am fwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Einir ar 07891353082 neu e-bostiwch cadeiryddtbt@gmail.com
I ymgeisio, gellir lawrlwytho ffurflen gais isod. Danfonwch ffurflenni cais wedi cwblhau at cadeiryddtbt@gmail.com cyn gynted â phosib. Dyddiau Cau 15 Mawrth 2025.