

Cylch Meithrin Traed Bech Twymyn
Neuadd Cemaes
Cemaes
Machynlleth
SY20 9PR
E-bost: traedbechtwymyn@gmail.com
Rhif Ffôn: 07908467226
GWYBODAETH GYFFREDINOL
Elusen gofrestredig yw y cylch (Rhif elusen 1200150) sy’n cael ei rheoli gan dîm o wirfoddolwyr. Mae’r cylch yn dibynnu’n llwyr ar ffioedd y plant yn ogystal â grantiau, codi arian a rhoddion.
Bydd y cylch yn darparu gwasanaeth o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhagwelir y bydd canran o’r plant fydd yn mynychu’r cylch yn dod o gartrefi di-gymraeg. Bydd y cylch yn hyrwyddo addysg Gymraeg i bob plentyn a Chymraeg fydd y staff yn siarad gyda’r plant.
Bydd cyfle i blant ddysgu a chymdeithasu o dan ofal staff proffesiynol, cymwys a brwdfrydig gan wneud ffrindiau oes gyda’r plant fydd yn cychwyn yr ysgol gyda nhw. Gan fod chwarae yn bwysig iawn i ddatblygiad plentyn, mae’r profiadau a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnig yn y cylch meithrin wedi’u selio ar feysydd dysgu’r Cwricwlwm i Gymru ac ar addysgu drwy chwarae. Bydd y cylch hefyd yn anelu at fabwysiadu dull y ‘curiosity approach’ ac yn cefnogi staff i gymhwyso yn y maes hwnnw. Mae pwyslais arbennig yn cael ei roi yn y cylch ar sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu, ynghyd â datblygiad personol a chymdeithasol. Mae’r holl wasanaeth yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Blaenoriaeth Cylch Meithrin Traed Bech Twymyn yw hapusrwydd a diogelwch pob plentyn - cynigir y gofal gorau posib mewn awyrgylch hapus a chartrefol, a chyfle i bob plentyn ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial. Mae’r ystafell yn cynnwys offer, teganau ac adnoddau o’r ansawdd uchaf sy’n adlewyrchu anghenion, datblygiad ac oedran y plant. Bydd adnoddau ac offer mor naturiol â phosib hefyd, sy’n cyd-fynd gydag ein gwerthoedd craidd. Byddwn yn rhoi sylw manwl i gynllunio’r mannau chwarae tu allan, er mwyn cynnig cyfleoedd a gosod pwyslais ar weithgareddau ysgogol i blant yn yr awyr agored.
Mae staff cymwys a phrofiadol yn gyfrifol am sicrhau fod pob plentyn yn derbyn gofal a sylw tyner a phriodol. Rhoddir ystyriaeth i anghenion a datblygiad pob plentyn unigol yn cynnwys cymdeithasu, dysgu a chwarae.
Trwy gofrestru eich plentyn yng Nghylch Meithrin Traed Bech Twymyn gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd camau bychain cyntaf eich plentyn yn rhai sicr a hyderus.