top of page

Traed Bêch Twymyn

Cylch Meithrin newydd sbon i'r plant ieuangaf yn ardal Glantwymyn fydd yn cynnig gofal drwy'r dydd, trwy gyfrwng y Gymraeg i blant o 18 mis i 5 mlwydd oed.

Painting_edited.jpg

Ein Bwriad

Meithrin plant hyderus, cymdeithasol a dwyieithog mewn amgylchedd sy'n annog creadigrwydd, chwilfrydedd a dysgu drwy chwarae er mwyn datblygu arferion da a sefydlogrwydd sy'n paratoi plant bach at gychwyn eu haddysg.

Datblygwyd Traed Bêch Twymyn mewn ymateb i brinder gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg i'r plant ieuengaf yn ardal Glantwymyn.

​

Yn ystod 2022,  bu'r pwyllgor gwirfoddol yn cydweithio gyda Mudiad Meithrin i greu swyddi, recriwtio tîm profiadol a chofrestru ein safle gyda Arolygaeth Gofal Cymru.

 

Agorwyd drysau Traed Bech Twymyn ar y 4ydd o Ionawr 2023.

Home: Services
Image by Jackie Hope

Nod ac Amcanion

  1. Cynnig gofal drwy’r dydd trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn magu plant hyderus, cymdeithasol a dwyieithog

  2. Creu amgylchedd sy’n annog creadigrwydd, chwilfrydedd a dysgu trwy chwarae

  3. Meithrin arferion da a darparu sefydlogrwydd sy’n paratoi plant at gychwyn yn yr ysgol

Gwerthoedd Craidd

  1. Ateb y galw brys am ddarpariaeth gofal plant drwy’r dydd, cyfrwng Cymraeg i blant ieuengaf yr ardal

  2. Cefnogi a bwydo Cylch Meithrin Glantwymyn

  3. Bod yn gwmni nid am elw a sicrhau fod arian yn aros yn ein cymuned leol

Image by Jackie Hope

Ein Gwasanaeth

Rydym yn cynnig gofal drwy'r dydd i blant o 18 mis oed hyd at 4 mlwydd oed.

Natur hamddenol gan ddilyn dulliau montessori a'r curiosity approach.

Bwyd i gyd wedi ei gynnwys yn y pris. 

Gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mawrth - Gwener: 7:45yb - 5:30yh
Gwyliau Banc: Ar Gau
Byddwn hefyd yn cau dros wythnos y Nadolig.

Home: Opening Hours

Lleoliad

Neuadd Cemaes, Cemaes, Machynlleth, SY20 9PR

Neuadd bentref wedi ei addasu yn bwrpasol ar gyfer gofal plant
Tegannau ac adnoddau naturiol
Awyrgylch wedi ei ddylunio ar gyfer dysgu drwy chwarae ac ennyn chwilfrydedd
Ardal chwarae tu allan
Cornel dawel ar gyfer gorffwys a chysgu a bydd amser dynodedig yn ystod y diwrnod i bob plentyn ymlacio

Cegin bwrpasol ar gyfer paratoi prydau bwyd

Home: Portfolio
Wood

Ffîoedd

Mae'r ffîoedd yn cynnwys brecwast, cinio a byrbrydau

£28 - £29

Hanner Diwrnod

Sesiwn Bore

 7:45 - 12:30

£29

Cynnwys brecwast a cinio.

​

Sesiwn Prynhawn

 1:00 - 17:30

£28

​

​

​

​

£57.50

Drwy'r Dydd

7:45 - 17:30

Pris yn cynnwys brecwast, cinio a byrbrydau.

​

Mae diwrnod llawn byr hefyd yn ospiwn.

7:45 - 3:45

£49

 

*

​

​

£48

Diwrnod Ysgol

 8:45 - 15:45

Pris yn cynnwys cinio a byrbrydau.

​

​

​

​

£12

Sesiwn Ar Ôl Ysgol

Mae argaeledd sesiynau ad hoc yn dibynnu ar nifer y llefydd gwag. Cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion.

Home: Price List

Sesiwn Blasu

Rydym yn cynnig 3 sesiwn chwarae yn rhad ac am ddim i bawb sydd eisiau dod i weld y lleoliad, cyfarfod y staff a gofyn cwestiynau. Cysylltwch â ni i drefnu, neu defnyddiwch y ffurflen >>>

Diolch!

  • Black Facebook Icon
  • Black Instagram Icon
Home: News
1.png

Swydd Wag!

30 Tachwedd 2023

Mae TBT yn tyfu eto! Rydym yn chwilio am gynorthwy-ydd gofal plant i ymuno â'n tîm. Dyddiad Cau 22ain Rhagfyr 2023. 

bottom of page